Gwybodaeth am PCLlC

Partneriaeth yw Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal (PCLlC) rhwng Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru, Stonewall Cymru, Anabledd Cymru, a Thîm Cymorth Ieuenctid Cymru. Rhaglen fentora ydyw sy’n ceisio cynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru, wedi’i hariannu gan Gronfa Gymunedol Genedlaethol y Loteri a Llywodraeth Cymru.

Ledled Cymru, mae yna gyfalaf cymdeithasol a deallusol nad yw’n cael ei defnyddio ac sydd wedi’i heithrio o’n systemau cyhoeddus a gwleidyddol. Mae hyn yn cynnwys pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl o’r gymuned LHDT+, pobl anabl, menywod a phobl sy’n gyfuniad o’r nodweddion hyn. Mae’r rheiny yr ymddengys eu bod wedi “cyrraedd y brig” o ran eu bod yn “llwyddiannus” yn eu maes dewisol neu wleidyddiaeth. Eto i gyd mae yna thema gyffredin wrth siarad â sawl un ohonynt ei bod wedi bod yn daith hwy nag y dylai wedi bod, wedi cymryd mwy o amser a bod yna lawer o rwystrau i’w goresgyn. Nod y rhaglen Pŵer Cyfartal, Llais Cyfartal (PCLlC) yw helpu i bontio’r bwlch, cael mwy o gynrychiolaeth amrywiol ym mywyd gwleidyddol a chyhoeddus drwy gryfhau gwybodaeth a sgiliau’r rheiny sy’n dyheu am fod yno, gan ddysgu gan y bobl sydd wedi cyflawni swyddi pŵer, dylanwad ac awdurdod yn wyneb yr heriau hynny, a chael eu cefnogi ganddynt. Mae ein rhaglenni mentora bywyd cyhoeddus Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (Cymru) a Thîm Cymorth Ieuenctid Cymru wedi gweld mentoreion yn ennill swyddi fel cynghorwyr ac AS, yn cael eu penodi i fyrddau cyhoeddus megis Gyrfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru a dod yn llywodraethwyr ac yn ymddiriedolwyr elusennau. Nod y rhaglen hon yw adeiladu ar y profiad a’r llwyddiant hwn er mwyn cynyddu cynrychiolaeth ar draws ein holl gymunedau amrywiol.

Ein gweledigaeth yw gweld cynrychiolaeth fwy amrywiol ar draws yr holl swyddi gwneud penderfyniadau cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru gan gynnwys byrddau cyhoeddus (megis Cyngor Celfyddydau Cymru neu Chwaraeon Cymru), byrddau iechyd, swyddi etholedig yn y llywodraeth leol a’r DU neu Senedd Cymru, ymddiriedolwyr elusennau, llywodraethwyr ysgol ac fel actifyddion cymunedol.

Cwrdd â’r Tîm

  • WEN Cymru

    Gweledigaeth o Gymru heb wahaniaethu ar sail rhywedd

  • EYST

    Cefnogi pobl lleiafrifoedd ethnig a herio stereodeipiau negyddol am amrywiaeth ethnig yng Nghymru

  • Stonewall Cymru

    Gweithio i gyflawni cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yng Nghymru

  • Anabledd Cymru

    Ymgeisio i gyflawni hawliau a chydraddoldeb yr holl bobl anabl