Polisi Preifatrwydd

Pan fyddwch yn gofyn am wybodaeth gan Pŵer Cyfartal Llais
Cyfartal, yn cofrestru ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau,
neu’n prynu pethau oddi wrthym, efallai y bydd Pŵer Cyfartal
Llais Cyfartal yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth amdanoch
eich hun.
Mae’r datganiad hwn yn esbonio sut yr ydym yn gofalu am yr
wybodaeth honno a’r hyn yr ydym yn ei wneud â hi. Mae
gennym ddyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Diogelu Data
2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data i atal eich
gwybodaeth rhag mynd i’r dwylo anghywir. Rhaid i ni hefyd
wneud popeth posibl i sicrhau bod y data sydd gennym
amdanoch yn gywir, yn ddigonol, yn berthnasol, a heb fod yn
ormodol.
Fel arfer, bydd yr unig wybodaeth sydd gennym yn dod yn
uniongyrchol oddi wrthych chi. Pan fyddwn yn casglu
gwybodaeth gennych, byddwn yn egluro pa wybodaeth sy’n
ofynnol i ddarparu’r wybodaeth, y gwasanaeth neu’r nwyddau
y mae arnoch eu hangen. Nid oes rhaid i chi roi unrhyw
wybodaeth ychwanegol i ni oni bai eich bod yn dewis gwneud
hynny.
Rydym yn storio eich gwybodaeth yn ddiogel ar ein system
gyfrifiadurol, rydym yn sicrhau mai dim ond y rheiny y mae
arnynt ei hangen sy’n gallu ei chyrchu, ac rydym yn hyfforddi
ein staff i drin a storio gwybodaeth yn ddiogel.
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal
neu’n gwneud cais am un o gynlluniau Pŵer Cyfartal Llais
Cyfartal, byddwn yn casglu dim ond y data sy’n gwbl

angenrheidiol i gyflawni’r tasgau penodol hyn, ac ni chaiff yr
wybodaeth hon ei defnyddio at ddibenion eraill, naill ai’n
fewnol yn Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal neu’n allanol. Byddwn yn
defnyddio eich data at ddibenion gweinyddol ac i gyfathrebu
â chi.
Mae gennych yr hawl, unrhyw bryd, i dynnu’n ôl eich
cydsyniad i’r wybodaeth hon gael ei chadw gan Pŵer Cyfartal
Llais Cyfartal, a dylech gysylltu â Rheolwr y Prosiect Mentora
yn Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, International House, 10 Ffordd
Churchill, Caerdydd, CF10 2DX i ddweud wrthym yr hoffech i’ch
data personol gael eu dileu.
Yn ystod y broses gofrestru, rydym yn casglu gwybodaeth
bersonol. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth honno am y
rhesymau canlynol: rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y
pethau cyffrous yr ydym yn eu gwneud yn Pŵer Cyfartal Llais
Cyfartal; cysylltu â chi os bydd angen i ni gael neu ddarparu
rhagor o wybodaeth; gwirio bod ein cofnodion yn gywir a
gwirio bob hyn a hyn eich bod yn hapus ac yn fodlon.
Nid ydym yn rhentu nac yn masnachu rhestrau cyfeiriadau e-
bost â sefydliadau na busnesau eraill. Rydym yn defnyddio
darparwr trydydd parti, Mailchimp, i ddosbarthu
cylchlythyrau. Rydym yn casglu ystadegau ynghylch agor
negeseuon e-bost a chliciau gan ddefnyddio technolegau
safonol y diwydiant i’n helpu i fonitro a gwella ein e-
gylchlythyr. I gael rhagor o wybodaeth, gweler hysbysiad
preifatrwydd Mailchimp. Gallwch ddatdanysgrifio o restrau
postio cyffredinol ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos trwy gicio
ar y ddolen datdanysgrifio ar waelod unrhyw un o’n
negeseuon e-bost, neu drwy anfon neges at
EqualPowerCymru@wenwales.org.uk

Pan fydd Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yn cynnal digwyddiadau,
rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, Eventbrite, i greu
e-docynnau. Bydd eich enw a’ch cyfeiriad e-bost yn cael eu
defnyddio i greu tocyn ac i alluogi i’ch manylion gael eu
hychwanegu at y rhestr bresenoldeb. Cliciwch yma i weld
hysbysiad preifatrwydd Eventbrite. Os hoffech ddileu eich
gwybodaeth o’r system hon, gallwch wneud hynny trwy wefan
Eventbrite neu drwy anfon neges i
EqualPowerCymru@wenwales.org.uk
Pan fyddwch yn darparu data i ni, efallai y byddwn hefyd yn
gofyn i chi a hoffech i Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal gysylltu â chi
yn y dyfodol fel y gallwn ddweud wrthych am wasanaethau
eraill yr ydym yn eu darparu, ac am ffyrdd y gallech, efallai,
gefnogi Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal. Mae gennych yr hawl i
ofyn i ni beidio â chysylltu â chi fel hyn, a byddwn bob amser
yn darparu dull clir i chi optio allan.
Gallwch hefyd gysylltu â ni’n uniongyrchol unrhyw bryd i
ddweud wrthym am beidio ag anfon deunydd marchnata
atoch yn y dyfodol.
Mae gennych yr hawl i gael copi o’r holl wybodaeth sydd
gennym amdanoch. I gael copi, naill ai gofynnwch am i
ffurflen gais gael ei hanfon atoch neu ysgrifennwch at Reolwr
y Prosiect yn Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, International House,
10 Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2DX. Mae unrhyw ddata a
ddefnyddir at ddibenion monitro ac adrodd i’n harianwyr yn
ddienw. Diweddarwyd y Polisi ddiwethaf: 15/06/2023.