Kateko
Mae’r naw mis a dreuliais fel mentorai ar y rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal wedi newid fy mywyd.
Mae’r mynediad a roddwyd i mi i bobl a mannau o bŵer wedi agor fy meddwl i nifer o bosibiliadau newydd ar gyfer fy mywyd. Roedd ymweld â’r Senedd a San Steffan, siarad â Gweinidogion ac Aelodau, a chlywed bod fy mewnbwn a fy mhresenoldeb yn bwysig ac yn cael eu gwerthfawrogi, ymweld â phencadlys BBC Cymru, a gweld y daith maen nhw arni fel sefydliad i fod yn fwy cynhwysol wedi fy ysbrydoli i freuddwydio’n fwy, ac i godi fy llais dros bobl wedi’u hymyleiddio.
Fe wnaeth y sesiynau gyda fy mentor fy helpu i roi fy ngweledigaeth mewn geiriau, a dechrau gweithio tuag at ei chyflawni. Fe wnaeth hi fy annog i fod yn fwy hyderus ac oherwydd ei hargymhelliad hi, cymerais ran mewn rhaglen creu newid, ac ennill grant i ddechrau codi ymwybyddiaeth a derbyn niwroamrywiaeth yn fy nghymuned leol. Fe wnaeth ei hanogaeth fy helpu i fagu hyder hefyd i wneud cais am swydd llywodraethwr ysgol.
Ar ddechrau’r rhaglen, roeddwn i’n hynod o swil. Mae rhwydweithio bob amser wedi bod yn anodd i mi, gan fy mod i bob amser wedi teimlo fel rhywun o’r tu allan, ond yn EPEV, mae bod yn unigryw yn cael ei werthfawrogi, ac roeddwn i’n teimlo’n ddiogel i fod yn fi fy hun ac i gael fy ngwerthfawrogi amdano, ac mae fy hyder wedi tyfu. Cefais fudd nid yn unig o ddoethineb fy mentor ond hefyd, o’r gweithdai ffurfiol ac o gefnogaeth ac anogaeth tîm y prosiect, a thrwy gysylltu â mentoreion a mentoriaid eraill.
Ni all unrhyw un newid eich bywyd i chi – mae’n rhaid i chi fod yn barod i roi’r gwaith i mewn, ond mae’n bendant yn helpu i gael pobl i gerdded ochr yn ochr â chi, eich annog, a’ch helpu i agor drysau a fyddai fel arall ar gau i chi; dyna beth wnaeth EPEV ei roi i mi.