Lee

Mae fy nghyfnod hefo PCLlC wedi rhoi hyder i mi i gymeryd rhan mewn sgyrsiau  am faterion bwysig  i bobl anabl a LHDTC+ yng Nghymru. Yn aml mae lleisiau anabl a LHDTC+ yn cael eu hanwybyddu mewn bywyd cyhoeddus ond mae PCLlC yn gyfle gwych i ddysgu sut fedrwch chi wneud gwahaniaeth go iawn yn eich maes diddordebol.  

Rydw i wedi cael profiadau bythgofiadwy ac wedi cyfarfod a nifer fawr o bobl ysbrydoliaethol sy’n gweithio tuag at newidiadau cadarnhaol i bobl  yng Nghymru. Cefais fy nghefnogi ar bob cam gan staff yr PCLlC i wneud y profiad yn hygyrch i me fel person anabl ac anneuaidd. 

Mi fuaswn yn annog unrhyw un sydd hefo angerdd at helpu pobl neu sydd eisiau deall mwy am sut i ddyrchafu lleisiau ymylol yng Nghymru i ymuno a rhaglen PCLlC. 

Lee

[Lee was a mentee on the EYST mentoring scheme that led to the creation of Equal Power Equal Voice.]