Martine

Trwy gydol y rhaglen, ‘dwi wedi datblygu fy hyder, fy hunan-barch a fy hunangred.

Rhoddodd fy mentor yr amser a’r amynedd i mi ddysgu pethau newydd, a gofod diogel i gael pethau’n anghywir. Fe wnaeth y rhaglen ganiatáu i mi leisio fy rhwystredigaethau ynghylch yr anghyfiawnder a’r anghydraddoldebau mae ein cymunedau yn eu hwynebu ac ar yr un pryd, rhoi gobaith i mi ein bod ni’n gwneud gwahaniaeth ac yn gweithio gyda’n gilydd i newid y system. Mae cwrdd â phobl eraill sydd yn cymryd rhan a chreu rhwydweithiau o gefnogaeth wedi bod yn anhygoel. Mae amrywiaeth yr ymgeiswyr wedi fy ngalluogi i ddysgu, tyfu ac edrych trwy wahanol lensys, a chynyddu fy ngwybodaeth ar ystod o bynciau.

Rwy’n ddiolchgar go iawn am y gefnogaeth ‘dwi wedi ei chael o’r cychwyn cyntaf, a ‘dwi’n gwybod ei bod wedi fy helpu i ddod y person ydw i nawr. Mae’r syndrom dynwaredwr yr oeddwn i’n ei deimlo wedi lleddfu, ac mae gen i hyder bod yr hyn sydd gen i i’w ddweud yn bwysig ac yn cael ei werthfawrogi. Mae’r sgiliau rydw i wedi eu datblygu drwy gydol y rhaglen wedi fy ngalluogi i roi fy hun ymlaen ar gyfer byrddau a phaneli na fuaswn i, y llynedd, hyd yn oed yn mynychu, oherwydd fy mod i’n teimlo’n annheilwng.

Dylai pawb gymryd rhan yn y rhaglen hon, mae’r rhaglen yn newid bywydau.