Shahd
Wnes i erioed feddwl y buaswn i’n gallu gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen. Wrth edrych yn ôl at fy mywyd fy hun, rwy’n teimlo nad oedd gen i’r adnoddau, yr hyder na’r rhwydweithiau yr oedd eu hangen arnaf.
Doeddwn i ddim yn teimlo fel fy mod i’n cael fy nghlywed nac fy ngweld. Nawr, rwy’n teimlo fel bod gen i fy llais fy hun, a bod rhywun yn gwrando arnai.
Trwy PCLLC, rydw i wedi ennill cysylltiadau ac wedi dod yn rhan o rwydweithiau. Nawr, rwy’n teimlo’n ddigon hyderus i estyn allan at bobl.
Fel rhywun o’r Aifft sydd wedi byw yng Nghymru ar hyd fy oes, dechreuais feddwl tybed ai fi yw’r unig berson sydd gyda Pharlys yr Ymennydd ac sydd mewn cadair olwyn, sydd hefyd yn Brydeiniwr-Eifftaidd. Mae eisiau gwybod hyn yn gysylltiedig â PCLLC, gan ei fod wedi fy helpu i ofyn ac ateb cwestiynau anodd am fy hunaniaeth. Dydw i ddim yn chwilio am dosturi na chydymdeimlad, ‘dwi jyst eisiau mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn am fy hunaniaeth, ac mae’r rhaglen wedi fy agor i fyny ar gyfer y gwaith hwn.