Nicola Pulman

“Mae fy mhrofiad o fod yn fentor i Eleanor wedi bod yn wobrwyol dros ben, ac rwyf wedi dysgu gymaint.

Pan wnaethon ni gyfarfod, sylweddolais mai’r ffordd orau y gallwn gefnogi Eleanor oedd bod yn ffrind, a thrafod syniadau a phosibiliadau newydd gyda hi. Fe wnaethom gael gwared â’r ffordd ffurfiol o fentora, a symud i ffordd fwy anffurfiol a chyfeillgar o ryngweithio.

Beth rwyf wedi’i ddysgu o fod yn fentor ac oddi wrth Eleanor:

  • rhoi’r gorau i geisio rheoli pethau, a gadael i eraill arwain
  • peidio â bod yn arbenigwr a bod yr un sy’n gwybod dim, a bod yn iawn gyda hynny
  • addasu’r cyflymder i’r hyn sy’n addas i bawb
  • cael gwared â’r rheolau, a gwneud beth oedd yn teimlo’n iawn
  • gwrando go iawn
  • deall fy nghyfyngiadau a fy niffyg gwybodaeth fy hun, a gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â hynny
  • bod yn ystyriol o anghenion eraill, a gofalu amdanynt

Mae’r rhain i gyd yn sgiliau rhyngbersonol da y byddaf yn mynd i ffwrdd gyda mi, sy’n bwysig, ond nid mor bwysig â’r berthynas rydw i wedi’i datblygu gydag Eleanor.

Mae hynny’n amhrisiadwy, ac rwy’n teimlo’n wirioneddol freintiedig ei bod hi wedi rhoi ei ffydd ac ymddiriedaeth ynof i. Mae hynny wedi cynyddu fy hyder, ac rwy’n teimlo’n hapus dros ben fy mod i wedi cwrdd ag Eleanor a’n bod ni wedi dod yn ffrindiau”.