Taith Senedd PCLlC 2025
Roedden ni wrth ein bodd yn treulio diwrnod defnyddiol ac egnïol yng Nghaerdydd gyda rhai sy’n cael eu mentora a mentoriaid angerddol o raglen PCLlC.
Dechreuodd y diwrnod gyda sgwrs ysbrydoledig a sesiwn holi ac ateb gan Mark Isherwood AS, a gynigiodd gipolwg gwerthfawr ar wasanaeth cyhoeddus ac arweinyddiaeth. Dilynwyd hyn gan Dee Montague-Coast, cyn-fentorai (sydd nawr yn fentor), a rannodd eu taith trwy’r rhaglen PCLlC, y cyfleoedd a agorodd iddynt, a’r hyn maen nhw wedi mynd ymlaen i’w gyflawni ers cwblhau’r rhaglen. Roedd clywed yn uniongyrchol am lwyddiant cyn-fyfyrwyr, a sut maen nhw nawr yn rhoi yn ôl i’r genhedlaeth nesaf yn uchafbwynt go iawn.
Ar ôl cinio rhwydweithio yn llawn sgyrsiau meddylgar a chysylltiadau newydd, cafodd y grŵp gyfle i arsylwi democratiaeth ar waith. Dechreuon ni drwy wylio sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog trwy ffrwd fyw; cyfle i weld y dadleuon a’r broses o wneud penderfyniadau yn digwydd mewn amser real. Yna fe wnaethon ni gloi’r diwrnod gyda thaith dywys o amgylch y Senedd.
Roedd yn bleser treulio amser gyda’r rhai a oedd yn rhan o’r rhaglen, gan eu cefnogi i ddyfnhau eu dealltwriaeth o fywyd cyhoeddus yng Nghymru ac agor drysau i gyfleoedd ystyrlon yn y dyfodol. Mae dyddiau fel hyn yn ein hatgoffa o bŵer cysylltiad, mentora a chynrychiolaeth, a’r rôl hanfodol y mae mentrau fel PCLlC yn ei chwarae wrth adeiladu democratiaeth fwy cynhwysol.