
Ynglŷn ag EPEV
Beth yw Rhaglen PCLlC?
Mae Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yn rhaglen fentora a hyfforddi traws-gydraddoldeb a gyflwynir gan bartneriaeth rhwng pedwar sefydliad: Anabledd Cymru, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid (EYST) Cymru, Stonewall Cymru, a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru. Mae’r rhaglen wedi’i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.
Gyda’n gilydd, rydym yn rhannu gweledigaeth ar gyfer Cymru lle mae bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yn adlewyrchu amrywiaeth ei phobl. Ein nod yw cynyddu cynrychiolaeth pobl o gymunedau sydd wedi’u tangynrychioli ac wedi’u hymylu mewn rolau cyhoeddus, yn enwedig o gefndir Du, Asiaidd neu gefndiroedd ethnig lleiafrifol eraill, anabl, LHDTC+, menywod, neu bobl sy’n uniaethu â sawl hunaniaeth ymylol. Ein gweledigaeth yw gweld y cymunedau hyn mewn rolau ar draws byrddau cyhoeddus, byrddau iechyd, llywodraeth leol a chenedlaethol, byrddau ymddiriedolwyr elusennau, cyrff llywodraethu ysgolion, a gweithredu ar lawr gwlad.
Nod Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yw rhoi lle cynhwysol a chefnogol i bobl sy’n awyddus i newid pethau i feithrin hyder, tyfu eu gwybodaeth a’u sgiliau, a chysylltu â mentoriaid a chyfoedion dylanwadol. Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno trwy dri llinyn craidd:
Mentora un-i-un gydag arweinwyr profiadol gan gynnwys Aelodau o’r Senedd a Senedd y DU, cynghorwyr lleol, aelodau bwrdd cyhoeddus, a ffigurau uwch o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.
Sesiynau hyfforddi a gweithdai pwrpasol ar bynciau allweddol megis:
- Sut i fod yn ymgeisydd gwleidyddol
- Ymgyrchu dros newid cymdeithasol
- Dylanwad gwleidyddol
- Bod yn aelod effeithiol o’r bwrdd
- Siarad cyhoeddus a chyfathrebu
- Deall y broses o lunio polisïau
- Rhyngblethedd
Cefnogaeth gan gymheiriaid drwy ddigwyddiadau rhwydweithio, sesiynau grŵp bach, a chyfleoedd i adeiladu perthnasoedd ar draws y garfan lawn.
Mae uchafbwyntiau’r rhaglen yn cynnwys:
- Ymweliadau â’r Senedd Cymru a Senedd y DU (yn rhithwir neu wyneb yn wyneb)
- Rhwydweithio ar-lein ac wyneb yn wyneb gydag eraill sy’n cael eu mentora a’u mentoriaid
- Trafodaethau panel gyda gweithwyr proffesiynol profiadol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau
Bydd cyfranogwyr yn gadael y rhaglen gyda:
- Hyder a chred gryfach yn eu gallu i arwain newid
- Dealltwriaeth gliriach o sut mae sefydliadau cyhoeddus yn gweithio a sut i ddylanwadu arnynt
- Sgiliau newydd mewn cyfathrebu, arweinyddiaeth, ac ymgysylltu gwleidyddol
- Cysylltiadau gwerthfawr â mentoriaid, cyfoedion a rhwydweithiau ledled Cymru
Mae ceisiadau bellach wedi cau.