Polisi Preifatrwydd

Pan fyddwch yn gofyn am wybodaeth gan Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, yn cofrestru ar gyfer unrhyw un o’n gwasanaethau, neu’n prynu pethau oddi wrthym, efallai y bydd Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth amdanoch eich hun.


Mae’r datganiad hwn yn esbonio sut yr ydym yn gofalu am yr wybodaeth honno a’r hyn yr ydym yn ei wneud â hi. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data i atal eich gwybodaeth rhag mynd i’r dwylo anghywir. Rhaid i ni hefyd wneud popeth posibl i sicrhau bod y data sydd gennym amdanoch yn gywir, yn ddigonol, yn berthnasol, a heb fod yn ormodol.


Fel arfer, bydd yr unig wybodaeth sydd gennym yn dod yn uniongyrchol oddi wrthych chi. Pan fyddwn yn casglu gwybodaeth gennych, byddwn yn egluro pa wybodaeth sy’n ofynnol i ddarparu’r wybodaeth, y gwasanaeth neu’r nwyddau y mae arnoch eu hangen. Nid oes rhaid i chi roi unrhyw wybodaeth ychwanegol i ni oni bai eich bod yn dewis gwneud hynny.


Rydym yn storio eich gwybodaeth yn ddiogel ar ein system gyfrifiadurol, rydym yn sicrhau mai dim ond y rheiny y mae arnynt ei hangen sy’n gallu ei chyrchu, ac rydym yn hyfforddi ein staff i drin a storio gwybodaeth yn ddiogel.


Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal neu’n gwneud cais am un o gynlluniau Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, byddwn yn casglu dim ond y data sy’n gwbl angenrheidiol i gyflawni’r tasgau penodol hyn, ac ni chaiff yr wybodaeth hon ei defnyddio at ddibenion eraill, naill ai’n fewnol yn Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal neu’n allanol. Byddwn yn defnyddio eich data at ddibenion gweinyddol ac i gyfathrebu â chi.


Mae gennych yr hawl, unrhyw bryd, i dynnu’n ôl eich cydsyniad i’r wybodaeth hon gael ei chadw gan Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, a dylech gysylltu â Rheolwr y Prosiect Mentora yn Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, International House, 10 Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2DX i ddweud wrthym yr hoffech i’ch
data personol gael eu dileu.


Yn ystod y broses gofrestru, rydym yn casglu gwybodaeth bersonol. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth honno am y rhesymau canlynol: rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y pethau cyffrous yr ydym yn eu gwneud yn Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal; cysylltu â chi os bydd angen i ni gael neu ddarparu rhagor o wybodaeth; gwirio bod ein cofnodion yn gywir a gwirio bob hyn a hyn eich bod yn hapus ac yn fodlon.


Nid ydym yn rhentu nac yn masnachu rhestrau cyfeiriadau e- bost â sefydliadau na busnesau eraill. Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, Mailchimp, i ddosbarthu cylchlythyrau. Rydym yn casglu ystadegau ynghylch agor negeseuon e-bost a chliciau gan ddefnyddio technolegau safonol y diwydiant i’n helpu i fonitro a gwella ein e- gylchlythyr. I gael rhagor o wybodaeth, gweler hysbysiad
preifatrwydd Mailchimp. Gallwch ddatdanysgrifio o restrau postio cyffredinol ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos trwy gicio ar y ddolen datdanysgrifio ar waelod unrhyw un o’n negeseuon e-bost, neu drwy anfon neges at EqualPowerCymru@wenwales.org.uk

Pan fydd Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yn cynnal digwyddiadau, rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, Eventbrite, i greu e-docynnau. Bydd eich enw a’ch cyfeiriad e-bost yn cael eu defnyddio i greu tocyn ac i alluogi i’ch manylion gael eu hychwanegu at y rhestr bresenoldeb. Cliciwch yma i weld hysbysiad preifatrwydd Eventbrite. Os hoffech ddileu eich gwybodaeth o’r system hon, gallwch wneud hynny trwy wefan Eventbrite neu drwy anfon neges i EqualPowerCymru@wenwales.org.uk


Pan fyddwch yn darparu data i ni, efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi a hoffech i Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal gysylltu â chi yn y dyfodol fel y gallwn ddweud wrthych am wasanaethau
eraill yr ydym yn eu darparu, ac am ffyrdd y gallech, efallai, gefnogi Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal. Mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio â chysylltu â chi fel hyn, a byddwn bob amser yn darparu dull clir i chi optio allan.


Gallwch hefyd gysylltu â ni’n uniongyrchol unrhyw bryd i ddweud wrthym am beidio ag anfon deunydd marchnata atoch yn y dyfodol.


Mae gennych yr hawl i gael copi o’r holl wybodaeth sydd gennym amdanoch. I gael copi, naill ai gofynnwch am i ffurflen gais gael ei hanfon atoch neu ysgrifennwch at Reolwr y Prosiect yn

Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, International House, 10 Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2DX.

Mae unrhyw ddata a ddefnyddir at ddibenion monitro ac adrodd i’n harianwyr yn ddienw. Diweddarwyd y Polisi ddiwethaf: 15/06/2023.