Hanes

Mae Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal (PCLlC) yn bartneriaeth rhwng Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru, Stonewall Cymru, Anabledd Cymru, a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) Cymru. Ariennir PCLlC gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Ein Cenhadaeth a’n Gweledigaeth:

Cynyddu amrywiaeth cynrychiolaeth mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru trwy gysylltu’r rheiny sydd â phrofiad â phobl uchelgeisiol, gan ddarparu hyfforddiant a meithrin rhwydweithiau rhagweithiol.

Pam y mae PCLlC yn bwysig?

Ledled Cymru, mae yna anghydraddoldeb a diffyg amrywiaeth yn ein systemau cyhoeddus a gwleidyddol. Mae pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl o’r gymuned LHDTC+, pobl anabl, menywod, a phobl sy’n gyfuniad o’r hunaniaethau hyn yn aml yn cael eu heithrio a’u hesgeuluso.

Yn aml, mae’r daith yn anoddach nag y dylai fod i’r grwpiau hyn o bobl ddod yn rhan o’r systemau hyn. Gall gymryd mwy o amser, a gall fod yn ofynnol goresgyn llawer mwy o rwystrau.

Nod PCLlC yw mynd i’r afael â’r materion hyn trwy annog a chefnogi’r bobl hyn i ddod yn rhan o Gymru fwy amrywiol trwy ein rhaglen. Cyflawnir hyn trwy atgyfnerthu gwybodaeth a sgiliau’r rheiny sydd â’r uchelgais i fod yno.

Rydym hefyd yn dysgu oddi wrth y rheiny sydd wedi cyflawni rolau pwerus, dylanwad ac awdurdod yn wyneb yr heriau hyn, ac yn cael ein cefnogi ganddynt.

Ein Hanes

Sefydlwyd PCLlC yn 2021 yn dilyn rhaglen bywyd cyhoeddus gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) Cymru.

Gwelsom fentoreion yn cael swyddi fel cynghorwyr ac ASau, yn cael eu penodi i fyrddau cyhoeddus, ac yn dod yn llywodraethwyr ysgolion ac yn ymddiriedolwyr elusennau.

Nod PCLlC yw adeiladu ar y profiad a’r llwyddiant hwn, gan gydweithredu i gynyddu cynrychiolaeth ledled ein holl gymunedau amrywiol.

Cwrdd â’r Tîm