Gwahoddiad i Dendro: Gwasanaethau Ffotograffiaeth ar gyfer y rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal (PCLlC)
1. Cyflwyniad
Mae’r rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal (PCLlC) yn fenter gydweithredol sydd â’r nod o gynyddu amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru. Cyflwynir y rhaglen drwy bartneriaeth rhwng Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru, Stonewall Cymru, Anabledd Cymru, a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST) Cymru, ac mae’n cynnig mentora, hyfforddiant a chymorth gan gymheiriaid i unigolion o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.
Er mwyn dogfennu a hyrwyddo effaith ein digwyddiadau a’n gweithgareddau, rydym yn awyddus i benodi ffotograffydd proffesiynol i dynnu lluniau o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu ysbryd ac amrywiaeth y rhaglen PCLlC.
2. Cwmpas y Gwasanaethau
Bydd y ffotograffydd a benodir yn gyfrifol am y canlynol:
- Rhoi Sylw i Ddigwyddiadau: Tynnu lluniau o sawl digwyddiad PCLlC bob blwyddyn ledled Cymru, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Ymweliad â’r Senedd (Caerdydd)
- Taith undydd i San Steffan (Llundain)
- Ymweliad â’r BBC (Caerdydd)
- Digwyddiadau rhwydweithio (gwahanol leoliadau yng Nghymru)
- Digwyddiad dathlu (Caerdydd)
- Gofynion Ffotograffiaeth:
- Tynnu lluniau naturiol a lluniau wedi’u gosod sy’n tynnu sylw at gyfranogiad ac amrywiaeth y cyfranogwyr.
- Darparu lluniau portread i’w defnyddio at ddibenion proffesiynol.
- Darparu cymysgedd o ddelweddau ongl lydan a delweddau agos i arddangos lleoliadau digwyddiadau a rhyngweithiadau unigol.
- Sicrhau bod delweddau’n cael eu goleuo’n dda, mewn ffocws, ac o gydraniad uchel sy’n addas ar gyfer defnydd print a digidol.
- Ôl-Gynhyrchu:
- Golygu ac atgyffwrdd delweddau yn ôl yr angen i sicrhau ansawdd proffesiynol.
- Cyflwyno detholiad o ddelweddau o fewn 7 diwrnod ar ôl y digwyddiad.
- Rhoi delweddau mewn fformatau cydraniad uchel (ar gyfer print) a fformatau wedi’u hoptimeiddio ar gyfer y we.
- Hawliau Defnydd:
- Rhoi hawliau llawn i PCLlC a’i sefydliadau partner ddefnyddio’r delweddau at ddibenion hyrwyddo, dibenion addysgol a dibenion adrodd ar draws gwahanol lwyfannau cyfryngau.
3. Hyd y Contract
- Tymor: Bydd y contract yn dechrau ar 1 Medi 2026 a bydd yn rhedeg am 8 mis, gyda’r posibilrwydd o’i ymestyn yn seiliedig ar berfformiad ac anghenion y rhaglen.
4. Cyllideb
- Rhowch ddadansoddiad manwl o’r costau fesul digwyddiad, gan gynnwys:
- Gwasanaethau ffotograffiaeth
- Teithio a llety (os yw’n berthnasol)
- Ôl-gynhyrchu a golygu
- Unrhyw gostau ychwanegol
- Dylai’r holl brisiau fod yn cynnwys TAW.
5. Meini Prawf Gwerthuso
Bydd tendrau’n cael eu gwerthuso yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:
- Profiad a Phortffolio
- Dymunol ond nid yn hanfodol: Profiad amlwg mewn ffotograffiaeth digwyddiadau, yn enwedig mewn lleoliadau cymunedol neu sector cyhoeddus.
- Ansawdd a pherthnasedd y portffolio a gyflwynwyd.
- Dealltwriaeth o Amcanion PCLlC
- Y gallu i dynnu lluniau sy’n adlewyrchu pwyslais y rhaglen ar amrywiaeth a grymuso.
- Bod yn sensitif i anghenion grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli a’r gynrychiolaeth ohonynt.
- Cost
- Gwerth am arian ac eglurder strwythur prisio.
- Geirdaon
- Tystebau neu eirdaon cadarnhaol gan rywun sydd wedi gweld eich gwaith.
6. Gofynion Cyflwyno
Dylai ffotograffwyr sydd â diddordeb gyflwyno’r canlynol:
- Llythyr Eglurhaol: Yn amlinellu eich diddordeb a’ch addasrwydd ar gyfer y rôl.
- Portffolio: Enghreifftiau o waith blaenorol, yn ddelfrydol o ddigwyddiadau neu raglenni tebyg.
- CV: Yn tynnu sylw at brofiad perthnasol
- Dadansoddiad Costau: Prisiau manwl fel yr amlinellir yn Adran 4.
- Geirdaon: Manylion cyswllt ar gyfer o leiaf ddau eirda.
7. Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno Cais
- Rhaid i bob cais ddod i law erbyn dydd Sul 23 Awst 2026 am 5pm.
- Cyflwynwch eich cais drwy e-bost: admin@epev.cymru
8. Gwybodaeth Gyswllt
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r tendr hwn, cysylltwch â:
- Enw: Tîm PCLlC
- E-bost: admin@epev.cymru
Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd wedi’u tangynrychioli. Nid oes angen i chi fodloni’r holl feini prawf a restrwyd, rydym yn eich annog i wneud cais os ydych chi’n teimlo mai dyma’r cyfle iawn i chi.
Sylwer: Gwnewch yn siŵr bod pob cais yn cydymffurfio â’r canllawiau a’r gofynion a bennir yn y ddogfen dendro hon. Efallai na fydd ceisiadau hwyr neu anghyflawn yn cael eu hystyried.