Mentora RhCM: ‘Mae fy mywyd wedi cael ei drawsnewid’

Mai 17, 2021

Ym mis Rhagfyr 2020, gwelsom ddiwedd trydydd cylch Cynllun Mentora RhCM. Parwyd menywod amrywiol ledled Cymru â menywod mewn bywyd gwleidyddol a bywyd cyhoeddus fel eu mentoriaid. Gwnaeth mentorai gymryd rhan mewn cyfres o weithdai i’w llywio a’u grymuso i sefyll mewn etholiadau seneddol yn 2021, byrddau cyhoeddus, llywodraethwyr ysgol, swyddi ymddiriedolwyr a rolau newydd yn unol â’u dyheadau.

“Rwyf wedi dwlu ar bob elfen o’r cynllun, mae wedi bod yn bleser ac wedi rhoi mwy na’r disgwyl i mi. Rwyf wedi dysgu cymaint amdanaf i fy hun, ond yn bwysicach, am bobl eraill a’r rhwystrau sy’n wynebu cynifer o fenywod. Rwy’n teimlo llawer yn fwy hyderus am gyflawni newid, mewn ffordd gynhwysol. Mae wedi newid fy meddylfryd ac rwy’n ddiolchgar am y cyfleoedd rwyf wedi’u cael.”

Er gwaethaf yr adfyd a wynebir gan gyfranogwyr yn ystod blwyddyn anodd, rydym yn hynod falch gyda’r adborth a dderbyniwyd a chyflawniadau ein mentoreion. Gweler isod am flas ar adborth a chanlyniadau’r cynllun.

Adborth ar gynllun mentora 2020

“Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i gynifer o bobl, ac roeddwn yn hynod ffodus i gael y rhwydwaith newydd hwn o bobl a oedd yn fenywod amrywiol, galluog yn cefnogi ei gilydd. Roedd cael man diogel i wneud hynny’n amhrisiadwy.”

“Ni fyddwn wedi gallu dychmygu yn ystod Covid, yn y cyfnod cyfyngiadau symud, y gallai fy mywyd wedi cael ei ehangu cymaint…a’n bod wedi gwneud cysylltiadau gydol oes, er nad oeddem wedi cwrdd oherwydd y gwnaeth y cynllun ddechrau a dod i ben yn ystod y cyfyngiadau symud! Mae’r clod am hynny i RhCM, eu bod wedi gallu cyflawni cynllun sydd mor bersonol mewn sawl ffordd.”

“Mae’r manteision wedi bod yn anferthol, a gallaf ddweud bod fy mywyd wedi cael ei drawsnewid. Es i o fod wedi datgysylltu o’r lle rwy’n byw, i fod yn llywodraethwr ysgol, yn gynghorydd tref, ac rwy’n sefyll yn etholiadau’r Senedd sydd ar ddod [Mai 2021]. Ni fyddai unrhyw ran o hyn wedi digwydd heb gynllun mentora RhCM.”

“Byddwn yn annog pobl i gyflwyno cais am y rhaglen fentora, mae’n rhoi mynediad i gyfoeth o wybodaeth, cymorth ac arweiniad. Byddwn yn arbennig yn annog menywod croenliw i gyflwyno cais am y rhaglen hon. Rwy’n credu bod angen mwy o gynrychiolaeth arnom, mwy o safbwynt o’r ffordd y mae cymdeithas yn llunio’n bywydau, ac mae angen i ni ddod â hynny gerbron bywyd cyhoeddus a gwleidyddol. Cyflwynwch gais am y rhaglen, ni fyddwch yn difaru.”