PCLC 2023-24 yn agor
Nid yw Cymru erioed wedi bod mor amrywiol ond nid yw ein sefydliadau cyhoeddus yn adlewyrchu hyn – dyna pam mae angen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal
Mae sefydliadau cydraddoldeb yng Nghymru yn galw am fwy o bobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, menywod, pobl LHDTCRhA+, a phobl anabl mewn swyddi gwneuthurwyr penderfyniadau yng Nghymru. Wrth i Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru, Anabledd Cymru, y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), a Stonewall Cymru lansio ceisiadau ar gyfer y Rhaglen fentora Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, mae’r rheiny sy’n cael eu tangynrychioli ym mywyd gwleidyddol a chyhoeddus Cymru ac sy’n aml yn wynebu rhwystrau ychwanegol i gyrraedd swyddi dylanwadol yn tyfu’n ganolbwynt sylw.
Dim ond un fenyw o liw sydd wedi’i hethol i’r Senedd mewn dros 20 mlynedd o ddatganoli. Ni fu erioed Aelod o’r Senedd sy’n ddefnyddiwr cadair olwyn ac nid oes data’n cael eu cadw hyd yn oed ar nifer yr Aelodau o’r Senedd sy’n nodi eu bod yn anabl. Mae’r Senedd hefyd wedi gwneud yn wael o ran cynrychiolaeth LHDTCRhA+, ac nid oes yr un aelod Senedd agored traws neu anneuaidd wedi’i ethol. Mae’n amlwg bod angen cymryd mwy o gamau i sicrhau bod ein sefydliadau gwleidyddol a chyhoeddus yng Nghymru yn adlewyrchu’r boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu.
Ar un adeg, Cymru oedd â’r senedd gyntaf yn y byd i fod yn gytbwys o ran y rhywiau, ond roedd y cynnydd hwnnw’n fregus ac mae’r gynrychiolaeth wedi llithro ers hynny – ar hyn o bryd, 43% o Aelodau’r Senedd sy’n fenywod. Ar y lefel leol, dim ond 14% o ymgeiswyr yn 2022 oedd yn anabl o gymharu â dros 20% o gyfanswm y boblogaeth. Dim ond 3% o gynghorwyr oedd yn dod o gefndir ethnig leiafrifol. Mae’r rhain yn lleisiau â phrofiad bywyd y mae’n rhaid eu clywed yn y coridorau grym.
Mae Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yn rhaglen fentora draws-gydraddoldebau sydd â chenhadaeth i arallgyfeirio bywyd cyhoeddus Cymru. Yn ystod ei dwy flynedd gyntaf, mae ei chyfranogwyr wedi ennill swyddi cynghorwyr, ASau, ac ymddiriedolwyr, wedi cael eu penodi i fyrddau cyhoeddus, ac wedi dod yn llywodraethwyr ysgol. Caiff y mentoreion eu paru â mentor yn eu maes diddordeb, o wleidyddiaeth i’r cyfryngau, o’r celfyddydau i’r trydydd sector. Maent yn cael mynediad at rwydwaith amhrisiadwy o gymorth gan gymheiriaid, sesiynau hyfforddi, ac ymweliadau â seddi grym, megis y Senedd a dau Dŷ’r Senedd.
Mae’r cynllun wedi bod yn drawsnewidiol i Becci Smart, a gafodd ei pharu â Sioned Williams AS yng ngharfan 2022-23 y rhaglen. “Mae Sioned wedi bod yn anhygoel ac wedi fy ngalluogi i arwain ar bethau a oedd yn bwysig i mi fel person anabl yng Nghymru ac yr oedd angen eu hamlygu yn fy marn i. Nid yn unig yr oedd wedi fy arwain mewn ffyrdd newydd o wneud hyn, rhoddodd gyfleoedd i mi ddefnyddio fy llais trwy ei llwyfan i wneud hyn hefyd.”
Trwy’r rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, a’i mentor, llwyddodd Becci i feithrin ei hyder i ddod yn llefarydd y cyfryngau ar gyfer Epilepsy Action, ymunodd â’r ymgyrch Love Your Period yn rôl arweinydd yr Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD), a gwnaeth gais am interniaeth gyda Sefydliad Iechyd y Byd. “Roeddwn yn gwybod fy mod am fynd i faes dylanwadu ar bolisi iechyd, ac rwyf wedi dysgu llawer iawn rhagor am sut i wneud hyn. Diolch i’r rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal am roi’r cyfle i mi gymryd rhan, gan fy mharu â’r mentor gorau posibl, a chyflwyno’r cyfleoedd y mae’r rhaglen hon wedi’u rhoi i mi.”
Wrth i’r rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal lansio ceisiadau ar gyfer carfan 2023-24, mae Rheolwr Prosiect Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, Joys Njini, yn awyddus i adeiladu ar y profiad a’r llwyddiant a gafwyd hyd yn hyn. “Mae’n fraint i mi fod mewn sefyllfa lle rwy’n gweld cwrs bywydau pobl yn newid o flaen fy llygaid, wrth i ni weithio ar y cyd â’r bartneriaeth hon o sefydliadau cydraddoldeb i rymuso ac addysgu’r rhai sy’n cael eu mentora ar eu teithiau i fywyd cyhoeddus a gwleidyddol. Mae’r rhaglen yn cefnogi’r rhai sy’n cael eu mentora i ddatblygu rhwydweithiau cryf, magu hyder a meithrin sgiliau, ac yn y pen draw i ddod yn unigolion sy’n gwneud penderfyniadau a all achosi newid gwirioneddol yng Nghymru sydd o fudd i’n holl boblogaeth amrywiol”.
A hoffech greu newid yng Nghymru? Gallai Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal fod ar eich cyfer chi a gallwch wneud cais yma ‘nawr i ddod yn rhan o’r garfan nesaf.”