WEN Cymru

  • Joys Violette Njini (hi)

    Rheolwr Prosiect Mentora Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru

    Mae gan Joys brofiad helaeth yn y trydydd sector, yn enwedig wrth gefnogi a grymuso menywod sy’n ceisio lloches ac sy’n ffoaduriaid o bedwar ban byd. Mae’n frwd dros degwch, cyfiawnder cymdeithasol, tegwch cyfle a grymuso menywod. Mae’n credu er mwyn cyflawni Cymru decach a mwy cyfartal, fod yn rhaid cael cynrychiolaeth amrywiaeth mewn swyddi cyhoeddus a gwleidyddol. Fel cyn fentorai, mae’n cydnabod pa mor hanfodol y gall y prosiect hwn fod wrth wneud Cymru’n gymdeithas fwy amrywiol a chyfartal.

  • Annmarie Brown (hi)

    Swyddog prosiect mentora Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod

    Mae Annmarie yn eiriolwr brwd dros degwch a chyfiawnder cymdeithasol ac mae’n ymrwymedig i hyrwyddo cynhwysiad ac amrywiaeth ym mhob maes o’i gwaith a’i bywyd. Mae ganddi amrywiaeth eang o brofiad yn gweithio gydag amrywiaeth o unigolion amrywiol, mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys addysg, cyfiawnder troseddol a sefydliadau’r trydydd sector.