Rolau a chyfrifoldebau mentor
Rôl y mentor yw
- helpu’r mentorai i ffocysu a nodi’r camau gweithredu mae angen iddynt eu cymryd er mwyn cyflawni’r hyn maent am ei gael
- darparu cymorth, strwythur, syniadau ac ysbrydoliaeth
- helpu’r mentorai i fagu hyder ac adeiladu rhwydweithiau
- cynnig barn wahanol ar sefyllfaoedd a phroblemau a chyfle i drafod materion gyda rhywun allanol
- arwain y mentorai gan ei gyfeirio at bobl eraill pan nad yw ei brofiad yn ddigonol.
Dylai mentoriaid wneud y canlynol
- gallu ymrwymo i oddeutu awr bob 4 i 6 wythnos naill ai’n bersonol, ar-lein neu dros y ffôn
- bod yn glir am ei argaeledd i’w fentorai
- gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfrinachedd a rheoli disgwyliadau’r mentorai
- bod yn ymwybodol o’i gyfyngiadau a’i ffiniau ei hun
- peidio â bod yn feirniadol
- bod yn agored i brofiadau newydd, safbwyntiau newydd a syniadau newydd
- meddu ar sgiliau cyfathrebu, gan gynnwys y gallu i wrando, cwestiynu, cyd-drafod yn dda a rhoi adborth adeiladol.
Cofiwch mai dim ond y mentorai sy’n gallu cyflwyno newidiadau cadarnhaol ac yn aml y gall y newidiadau hynny gymryd mwy o amser i’w cyflawni na hyd y berthynas. Peidiwch â rhoi gormod o bwysau er mwyn gweld cynnydd yn syth, gall rhai pethau gymryd amser.
Gall pethau bach gael effaith fawr, mae bod yno i wrando, neu helpu rhywun i feddwl am broblem wneud gwahaniaeth enfawr.
Byddwch yn amyneddgar! Mae gan bobl lefelau gwahanol o ysgogiad , peidiwch â disgwyl i bawb fod mor ysgogol neu drefnus â chi. Byddwch yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ym mywyd eich mentorai a sicrhewch fod gennych empathi.
Dylech ddeall fod pob perthynas yn unigryw ac y dylech fynd i’r berthynas fentora heb unrhyw ragdybiaethau am sut y bydd. Peidiwch â cheisio gorfodi eich ffyrdd o weithio arno, efallai na fyddant yn berthnasol i sefyllfa’r mentorai.