Gemma
“Fel menyw wen ganol oed mewn swydd arwain, roeddwn yn ymwybodol iawn o’r fraint oedd gennyf pan wnes i wneud cais am y rhaglen EPEV. Ond rydym yn fwy na sut rydym yn edrych ar y tu allan. Ar ôl fy holl brofiadau dros y blynyddoedd diwethaf, roedd angen i mi wneud *rhywbeth*, ac roedd y rhaglen hon yn teimlo fel ei bod hi wedi’i chynllunio ar fy nghyfer.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, ‘dwi wedi ymuno ag ystod o sesiynau hyfforddi cefnogol a gafaelgar, sydd yn canolbwyntio go iawn ar greu amgylchedd cynhwysol, lle gall pob un sy’n cael ei fentora deimlo’n gyfforddus, hyderus, diogel a chroesawgar.
‘Dwi wedi cwrdd â mentoreion yn rhithiol ac mewn person, sy’n dod o ystod eang o gefndiroedd a phrofiad, gan gynnwys ffoaduriaid, myfyrwyr gradd Meistr, staff rheng flaen, gwirfoddolwyr ac aelodau’r bwrdd. Rwyf wedi eu gweld fel crëwyr newid meddylgar, ymroddedig a deinamig, sy’n benderfynol o fod yn rhan o greu Cymru fwy cyfartal i bawb.
A’ dwi wedi gwneud cysylltiad â fy mentor cefnogol dros ben, Rachel Cable, sydd nid yn unig wedi cynnig cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant ymarferol i fy helpu i fagu fy hyder a fy sgiliau, ond sydd wedi bod yn berson brwdfrydig hefyd ar adeg pan roeddwn i wir angen gwybod bod rhywun yn fy nghefnogi ar lefel broffesiynol a phersonol.
Dwi wedi dysgu cymaint drwy’r rhaglen, ac wedi cael fy atgoffa o bethau amdanaf fi fy hun roeddwn i wedi’u hanghofio. Dwi wedi dechrau dweud ie wrth bethau sy’n codi ofn arna i, ac ar ôl amser hir o deimlo heb gyfeiriad, nawr, dwi’n teimlo fel fy mod i’n gallu gweld y goleudy yn fy mhwyntio i’r cyfeiriad cywir”.