Eleanor

“Ymunais ag EPEV yn ystod cyfnod anodd iawn yn fy mywyd, pan roeddwn i’n wynebu gwahaniaethu yn y gweithle, a oedd yn ergyd fawr i fy hyder a fy iechyd meddwl. Roedd cael mynediad i seddi pŵer ar gyfer pobl wedi’u hymyleiddio wir yn apelio ataf. 

Mae’r gefnogaeth a’r anogaeth a gefais drwy fy mentor a thrwy EPEV yn gyffredinol wedi fy helpu drwy fy sefyllfa. Mae wedi bod yn brofiad dilysu i mi, ac wedi fy annog i ail-werthuso fy amgylchiadau a thrafod fy syniadau busnes bach fy hun gyda fy mentor. 

Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd cael ymweld â BBC Cymru, a herio’r Prif Swyddog Gweithredol am erthyglau gan y sefydliad, oedd â chynnwys yr oeddwn yn eu hystyried yn drawsffobig, a dyfynnu straeon roeddwn i wedi’u hymchwilio. Roeddwn i’n nerfus cyn siarad, ond roeddwn i’n teimlo’r gefnogaeth gan y grŵp, ac yn falch fy mod i wedi dod yno i godi hyn”.