
Ymuno â’r rhaglen
Mae ceisiadau nawr ar agor!
Sut i wneud cais
Rydym wedi ymrwymo i wneud ein proses ymgeisio mor hygyrch a chynhwysol â phosibl. Gallwch wneud cais mewn fformat sy’n addas i chi:
- Ffurflen Gais Ysgrifenedig: Cwblhewch ffurflen gyda’ch manylion ac ymatebion i gwestiynau’r cais.
- Cyflwyniad Sain: Yn well gennych siarad yn hytrach nag ysgrifennu? Byddwch yn gallu anfon recordiad sain sy’n cwmpasu’r holl gwestiynau gofynnol.
- Fformatau Amgen: Os yw fformat arall yn gweithio’n well i chi, byddwn yn hapus i drafod opsiynau i gefnogi eich anghenion.
Gwnewch gais i fod yn fentorai fan hyn.
Mae Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal (PCLlC) yn rhaglen fentora a hyfforddi trawsgydraddoldeb am ddim, a fwriedir i gefnogi pobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli i gamu i fywyd cyhoeddus ac ysgwyddo rolau arwain mewn mannau lle gwneir penderfyniadau ledled Cymru. Nid yw’r rhaglen yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol ac mae’n agored i unigolion o bob cefndir gwleidyddol neu anwleidyddol. Mae PCLlC yn fenter gydweithredol a gydlynir gan RhCM Cymru mewn partneriaeth ag Anabledd Cymru, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST), a Stonewall Cymru. Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Pan fydd mannau lle gwneir penderfyniadau yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth, mae pawb yn elwa. Mae arweinyddiaeth gynhwysol yn arwain at bolisïau mwy teg, cynrychiolaeth gryfach o anghenion y gymuned, a mwy o ymddiriedaeth y cyhoedd mewn sefydliadau. Mae profiad bywyd yn dod â dealltwriaeth ffres – gan helpu i ganfod bylchau, herio rhagdybiaethau, a siapio atebion sy’n gweithio i bawb. P’un ai yw’n llunio polisi addysg, yn gwella gwasanaethau cyhoeddus, neu’n cryfhau ymgysylltiad cymunedol, mae cynrychiolaeth amrywiol yn esgor ar ganlyniadau mwy ymatebol, arloesol ac effeithiol i gymunedau.
Drwy fentora un-i-un, hyfforddiant wedi’i deilwra, dysgu â chymheiriaid, a chyfleoedd rhwydweithio, mae PCLlC yn helpu cyfranogwyr i feithrin y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau sydd eu hangen arnynt i arwain. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, gwasanaeth cyhoeddus, y cyfryngau, neu’ch cymuned leol, nod y rhaglen yw cefnogi eich siwrnai. Pan fydd penderfynwyr yn adlewyrchu’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, mae’n esgor ar arweinyddiaeth fwy cynhwysol, ymatebol
ac effeithiol. Mae PCLlC yn creu lle i bobl sydd â phrofiad personol o anghydraddoldeb i gynyddu eu dylanwad ac ysgogi newid cadarnhaol.