Beth sy’n cael ei ddisgwyl gennyf i fel rhywun sy’n cael ei fentora?
Fel rhywun sy’n cael ei fentora ar y rhaglen chi sy’n gyfrifol am sicrhau newid cadarnhaol ac am arwain eich datblygiad eich hun. Gall eich mentor roi arweiniad, anogaeth a chefnogaeth i chi, ond ni allant wneud pethau drosoch chi. Mae perthnasoedd mentora yn gweithio orau pan fo gan y naill barch at y llall, pan fo ffiniau clir, a phan fo dealltwriaeth gyffredin o’r pwrpas a’r amserlen. Mae mentora yn sylfaen ar gyfer twf.
Os ydych chi’n ymuno fel rhywun sy’n cael ei fentora, dylech fod yn barod i:
- Gael rhesymau clir dros fod eisiau mentor a nodau personol i weithio tuag atynt
- Neilltuo tua 1 awr bob 4 i 6 wythnos ar gyfer cyfarfodydd gyda’ch mentor (dros y ffôn, Zoom, Teams, neu wyneb yn wyneb)
- Mynychu sesiynau hyfforddi ar-lein gorfodol bob mis
- Cymryd rhan mewn cyfleoedd rhwydweithio a meithrin sgiliau dewisol
- Mynd ati i arwain y berthynas fentora a chymryd cyfrifoldeb am eich cynnydd
- Deall pwrpas y rhaglen a rheoli eich disgwyliadau
Er mwyn meithrin perthynas fentora lwyddiannus, dylai’r rhai sy’n cael eu mentora:
- Baratoi ar gyfer pob cyfarfod gyda’ch mentor
- Rhestru nodau cyffredin a chreu cynllun gweithredu ar y cyd
- Parchu cyfrinachedd
- Bod yn agored i wahanol safbwyntiau a pharchu gwahaniaethau
- Parchu amser ac ymrwymiadau eich mentor
- Adnabod y berthynas fel un cyfartal
- Cyfathrebu’n glir, gwrando’n astud, a thrafod gyda phwyll a sensitifrwydd
- Gweithio’n gyson tuag at y nodau y cytunwyd arnynt
- Deall a pharchu ffiniau’r berthynas fentora
- Bod yn brydlon ac osgoi canslo cyfarfodydd pan fo modd
- Bod yn ymwybodol o gyfyngiadau a galluoedd eich gilydd
Sut y gallwch chi gefnogi’ch mentor
- Byddwch yn glir ynglŷn â’ch amcanion a myfyrio’n rheolaidd ar eich anghenion
- Ewch ati i osod a chynnal ffiniau clir o amgylch y berthynas fentora, gan gynnwys dyddiadau dechrau/gorffen a pha mor aml y byddwch chi’n cyfarfod
- Eglurwch yr hyn rydych chi am ganolbwyntio arno, boed hynny’n ddatblygiad proffesiynol yn unig neu agweddau ehangach ar eich bywyd