
A yw PCLlC yn addas i mi?
Dysgwch fwy am raglen Pwer Cyfartal Llais Cyfartal ac a yw’n addas i chi drwy gyflwyniad a sesiwn Holi ac Ateb!
Ar gyfer mentoreion
Cofrestrwch drwy ddefnyddio’r dolenni isod:
Ar gyfer mentoriaid
Cofrestrwch drwy ddefnyddio’r dolenni isod:
Noder: bydd palanteipydd ar gael yn ystod y sesiynau hyn. Rydym yn croesawu unrhyw ofynion mynediad ychwanegol, felly mae croeso i chi gysylltu â ni.
Ar gyfer pwy mae Rhaglen Mentora PCLlC?
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned, neu godi llais am faterion sy’n bwysig i chi?
Hoffech chi chwarae mwy o ran mewn bywyd cyhoeddus neu fywyd gwleidyddol a chael dylanwad ar y penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi, eich cymunedau a’n cymdeithas? Ydych chi’n teimlo’n rhwystredig oherwydd nad oes llawer o bobl fel chi mewn gwleidyddiaeth neu yn y mannau sy’n gwneud y penderfyniadau, fel y Senedd, eich cyngor lleol, neu ar fyrddau cyhoeddus? Oes yna fater rydych chi’n teimlo’n angerddol amdano neu oes gennych chi syniadau am sut i newid pethau?
Oes gennych chi brofiad bywyd, angerdd dros newid, neu syniadau newydd sy’n haeddu cael eu clywed?
Os felly, mae Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yn gyfle gwych i chi.
Sut mae’r Rhaglen yn Eich Cefnogi Chi
Trwy gynnig defnydd o amrywiaeth o offer ac adnoddau datblygu, adeiladu rhwydweithiau cryf gyda’ch cymheiriaid, a hyrwyddo ymrwymiad i ddysgu gydol oes, bydd y rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal (PCLlC) yn eich grymuso chi i ddod yn gatalydd ar gyfer creu newid.
Byddwch yn gadael y rhaglen wedi meithrin mwy o hyder fel unigolyn a chyda’ch gilydd, ac wedi’ch paratoi i bontio’r bwlch i fywyd gwleidyddol a chyhoeddus.
Mae’r manteision yn cynnwys:
- Mwy o hyder yn eich gallu eich hun i greu newid a dod o hyd i’ch llais
- Gwell dealltwriaeth o sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yng Nghymru a sut i ddylanwadu arnynt
- Mwy o wybodaeth am wahanol lefelau o lywodraeth (lleol, Senedd, San Steffan)
- Ymwybyddiaeth ddyfnach o’r materion polisi allweddol sy’n effeithio ar Gymru
- Sgiliau siarad cyhoeddus a chyfathrebu gwell
- Cyfleoedd i gwrdd ac ymgysylltu ag arweinwyr profiadol
- Ehangu a chryfhau eich rhwydweithiau
Pwy all wneud cais?
Mae PCLlC ar gyfer unrhyw un o gefndir wedi’i ymylu neu ei dangynrychioli yng Nghymru sydd eisiau camu i fywyd cyhoeddus. P’un ai oes gennych ddiddordeb mewn dod yn gynghorydd lleol, ymuno â bwrdd cyhoeddus, neu ddylanwadu ar newid yn eich cymuned, gall y rhaglen hon eich helpu i feithrin yr hyder, y sgiliau a’r rhwydweithiau i gymryd y cam nesaf.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sy’n 18+ oed ac sy’n byw yng Nghymru, sy’n:
- Unigolyn Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol
- Unigolyn o’r gymuned LHDTC+
- Unigolyn anabl
- Menyw
- Neu unrhyw gyfuniad o unrhyw un o’r hunaniaethau hynny
Ac â diddordeb clir mewn cael effaith ar fywyd cyhoeddus neu wleidyddol, ac ymrwymiad i’w datblygiad eu hunain.
Os nad ydych chi’n siŵr, cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.