Ein gwerthoedd a’n egwyddorion

Mae’r rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal yn cael ei harwain gan yr egwyddorion canlynol: 

  • Cynhwysiant: Fel rhaglen rhyngblethol, rydym yn dathlu ac yn gwerthfawrogi cefndiroedd, hunaniaethau a phrofiadau bywyd amrywiol ein holl gyfranogwyr. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn cael eu trin â pharch, a lle mae gofod, cefnogaeth ac undod yn cael eu meithrin.  Disgwylir i bob cyfranogwr gynnal y gwerthoedd hyn.  Nid oes lle i wahaniaethu o unrhyw fath, gan gynnwys rhywiaeth, hiliaeth, ableddiaeth, homoffobia, trawsffobia, neu unrhyw fath arall o ragfarn.  Rydym yn croesawu cyfranogwyr o bob cwr o’r sbectrwm gwleidyddol ac nid ydym yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol. 
  • Parch: Trin pawb gyda charedigrwydd, tegwch, a pharch, a dangos ystyriaeth i safbwyntiau eraill. 
  • Diogelwch: Rydym i gyd yn rhannu cyfrifoldeb am greu mannau diogel yn emosiynol ac yn gorfforol. 
  • Hygyrchedd: Rydym yn ymdrechu i wneud y rhaglen a’r digwyddiadau yn hygyrch a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol pan fo angen. 
  • Cyfrinachedd: Rhaid cadw straeon personol, hunaniaethau a phrofiadau a rennir yn breifat a dim ond gyda chaniatâd penodol y cânt eu rhannu. 
  • Grymuso: Rydym yn credu ym mhŵer unigolion i arwain, dylanwadu a gwneud newid. Rydym yn creu lle i bobl dyfu mewn hyder, gosod eu nodau eu hunain, a gweithredu yn eu bywydau a’u cymunedau ar eu cyflymder eu hunain. Mae ein rhaglen wedi’i chynllunio i gefnogi taith a dyheadau unigryw pob person.