Beth i’w ddisgwyl fel yr un sy’n cael ei fentora

Fel rhywun sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal, byddwch yn cael eich paru â mentor ymroddedig y mae ei brofiad, ei arbenigedd a’i gefndir proffesiynol yn cael eu paru’n ofalus i gefnogi eich nodau a’ch datblygiad personol. Mae’r berthynas fentora hon sydd wedi’i theilwra yn rhoi arweiniad, cyngor a chefnogaeth ymarferol trwy gydol eich taith.

Yn ogystal â mentora un-i-un, byddwch yn rhan o garfan a gynhelir gan un o bedwar sefydliad partner.  Mae pob sefydliad yn cynnig ei faes arbenigedd a’i ganolbwynt ei hun. Wrth osod yr unigolion fydd yn cael eu mentora mewn carfan, rydym yn ystyried eich dewis o ran sefydliad partner, yn ogystal â’ch hunaniaeth, eich profiad bywyd, a’ch nodau personol. 

Y pedwar sefydliad partner yw:

Mae pob carfan yn cael ei harwain gan Gydlynydd Rhaglen ymroddedig a fydd yn eich tywys a’ch cefnogi drwy gydol y rhaglen.  Mae’r rhaglen ehangach yn cael ei goruchwylio gan y Rheolwr Rhaglenni sydd yn RhCM Cymru.

O fewn Eich Carfan

  • Byddwch yn cael eich croesawu i’r rhaglen gyda sesiwn ragarweiniol sydd wedi’i chynllunio i’ch helpu i ymgartrefu a dod i adnabod eich carfan
  • Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau rhwydweithio mewn grwpiau bach, gan roi lle i feithrin perthnasoedd a rhannu profiadau mewn lleoliad mwy clir ei ganolbwynt
  • Mae carfanau hefyd yn annog rhwydweithio rhwng cyfoedion, gan roi cyfle i chi rannu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad bywyd eich hun gydag eraill.

Ar draws y rhaglen

  • Byddwch yn cael cyfle gysylltu â rhai sy’n cael eu mentora o’r pedwar sefydliad partner trwy ddigwyddiadau ar gyfer y carfanau i gyd, gan gynnwys digwyddiad lansio’r rhaglen, sesiynau hyfforddi, a chyfarfodydd wyneb yn wyneb
  • Byddwch yn cael cyfleoedd i adeiladu rhwydweithiau cymorth cyfoedion ystyrlon a chydweithio â phobl o ystod eang o gefndiroedd, diddordebau a phrofiadau.

Mae’r strwythur hwn wedi’i gynllunio i sicrhau eich bod yn elwa o gefnogaeth bendant y sefydliad sy’n eich lletya a chyfoeth dysgu a chysylltiad ar draws y rhaglen gyfan.